#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 19 Mawrth 2018
 Petitions Committee | 19 March 2018
 
 
 ,Papur briffio  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil : Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

 Rhif y ddeiseb: P-05-867

Teitl y ddeiseb: Gwneud murlun 'Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Pwnc y ddeiseb: Mae'n wirion bod tirnod mor bwysig yn Hanes Cymru'r 20fed Ganrif yn cael ei fandaleiddio, tra bod gwaith diweddar gan Banksy yn cael ei ddiogelu.

Mae'n amser i'r tirnod hwn gael statws safle gwarchodedig swyddogol yng Nghymru.

Cofiwch Dryweryn

Mae murlun 'Cofiwch Dryweryn' wedi'i baentio ar dalcen adfail hen fwthyn Troed-y-Rhiw, ar ymyl ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, yn Llanrhystud. Mae'r murlun yn ein hatgoffa o’r penderfyniad i foddi pentref Capel Celyn, yng nghwm Tryweryn, yn 1965 i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Peintiwyd y murlun yn wreiddiol yn y 1960au, ac, yn ddiweddarach, hawliodd y diweddar ysgolhaig, Meic Stephens,  gyfrifoldeb dros y weithred.

Cafodd y murlun ei fandaleiddio a'i ailbeintio sawl tro. Y tro diwethaf, sef mis Chwefror 2019, peintiwyd yr enw ‘Elvis’ dros  'Cofiwch Dryweryn'. Ers hynny, mae’r murlun wedi’i adfer unwaith eto.

Cadwraeth

Mae Cyngor Cymuned Llanrhystud wedi ymdrechu i ddiogelu’r wal, ond roedd anawsterau’n ei wynebu. Yn 2008, cynigiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hwyluso trafodaethau gyda pherchennog y wal ynghyd ag ymgyrch codi arian er mwyn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros atgyweirio'r wal a pharhau i’w chynnal a’i chadw.

Trefnwyd cyfarfod rhwng Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mis Medi 2008, a chytunwyd i ymrwymo 'mewn egwyddor' i Cadw gyfrannu £30,000, ond dim ond os oedd gweddill yr arian angenrheidiol yn cael ei godi’n annibynnol. 

Ym mis Awst 2009, lansiwyd apêl gan Gyngor Cymuned Llanrhystud i godi £80,000 i warchod y murlun drwy brynu'r wal y mae'r murlun wedi'i baentio arni, ynghyd â'r tir cyfagos.

Ni lwyddodd yr ymgyrch hon i gyrraedd y targed o £80,000.

Henebion cofrestredig

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i greu a chynnal rhestr o henebion. Caiff henebion ar y rhestr eu diogelu’n statudol. Defnyddir amrywiaeth o ffactorau i asesu pwysigrwydd cenedlaethol heneb ac wrth ystyried a fyddai’n briodol ei rhestru, gan gynnwys:

§  Cyfnod;

§  Heneb brin;

§  Dogfennaeth;

§  Gwerth grŵp;

§  Goroesiad / cyflwr;

§  Cyflwr bregus;

§  Amrywiaeth;

§  Potensial.

Rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru cyn ymgymryd ag unrhyw waith a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar heneb restredig. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw ganiatâd cynllunio y bydd ei angen ar gyfer y datblygiad. Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd heneb gofrestredig i Lywodraeth Cymru, drwy Cadw.

Prif bwrpas rhestru henebion yw sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ac mae rhagdybiaeth o blaid eu diogelu’n ffisegol wrth ystyried cais am ganiatâd heneb gofrestredig. Mae hyn yn golygu bod rhagdybiaeth yn erbyn cynigion a fyddai'n arwain at newid neu ddifrodi’r heneb yn sylweddol, neu gynigion a fyddai'n cael effaith sylweddol ar leoliad yr olion. Disgwylir i'r ymgeiswyr ddangos nad oes llwybr neu leoliad ymarferol, a fyddai’n osgoi'r heneb, ar gael, a bod yr angen i ymgymryd â'r gwaith yn drech na’r rhagdybiaeth o blaid diogelu'r heneb gofrestredig.

Mae'n drosedd dinistrio neu ddifrodi heneb gofrestredig, ymgymryd â gwaith heb ganiatâd heneb gofrestredig neu beidio â chydymffurfio â'i amodau.

Gall Gweinidogion Cymru ystyried y posibilrwydd o erlyn unrhyw un sy’n difrodi heneb restredig neu’n ymgymryd â gwaith, heb y caniatâd priodol, sy’n effeithio arni ac, yn ogystal â hyn, mae ganddynt y pŵer i gyflwyno hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig. Gall yr hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i adfer yr heneb i'w gyflwr blaenorol neu, os nad yw hynny’n ymarferol bosibl, gall fynnu bod gwaith yn mynd rhagddo i liniaru effeithiau'r difrod neu’r gwaith a wnaed heb ganiatâd.

Adeiladau Rhestredig

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd statudol i gadw rhestr o unrhyw adeiladau sydd, yn ei barn hi, yn bodloni’r meini prawf fel adeilad sydd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig. Mae adeiladau'n cael eu hychwanegu at y rhestrau statudol naill ai o ganlyniad i arolwg systematig o ardaloedd penodol neu o fathau penodol o adeiladau, neu yn dilyn ceisiadau gan awdurdodau lleol, cymdeithasau amwynder, cyrff neu unigolion eraill, yn ymwneud ag adeiladau penodol (rhestru yn y fan a’r lle).

Os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys adeilad ar y rhestr neu ddileu adeilad oddi ar y rhestr, rhaid iddi ymgynghori â pherchennog a meddiannydd yr adeilad a'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Caiff yr adeilad ei ddiogelu dros dro o ddechrau'r cyfnod ymgynghori.

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol y pŵer i gyflwyno hysbysiadau diogelu adeiladau os ydynt yn credu eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a’u bod mewn perygl o ddymchwel neu newid mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar eu cymeriad arbennig. Tra bod hysbysiad diogelu adeilad mewn grym, bydd yr adeilad yn cael ei drin fel adeilad rhestredig (er na fydd modd ei gaffael yn orfodol). Daw'r hysbysiad i rym cyn  gynted ag y caiff ei gyflwyno, a bydd yn parhau mewn grym am hyd at chwe mis.

O dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 rhaid mynd drwy’r broses o sicrhau caniatâd adeilad rhestredig cyn mynd ati i ddymchwel, addasu a / neu ymestyn adeilad rhestredig os bydd y gwaith hwnnw’n debygol o effeithio ar gymeriad yr adeilad.  Mae'n drosedd ymgymryd â gwaith o’r natur hwn heb ganiatâd, ac mae’r caniatâd hwnnw i’w gael gan yr awdurdod cynllunio lleol. Wrth ystyried unrhyw geisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ystyried yn benodol pa mor ddymunol fyddai diogelu’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy’n perthyn iddo.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ei hymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cadw wedi ystyried rhestru’r adeiledd yn y gorffennol, ond nid yw'n bodloni'r meini prawf penodol ar gyfer ei restru. Roedd yn amau hefyd ai rhestru’r adeiledd oedd y ffordd orau o’i ddiogelu. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion Cadw yn cwrdd â Chyngor Cymuned Llanrhystud a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mis Mawrth i drafod dulliau mwy effeithiol o ddehongli a gofalu am y safle.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.